Yn 2021, sefydlais fy musnes cyfrifo fy hun. Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd BSc (Econ) mewn Cyfrifeg a Chyllid yn 2007, fe ddatblygais fy astudiaethau ymhellach gan raddio o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig. Ers graddio yn 2007 dwi wedi cael profiad gweithio yn y maes cyfrifeg mewn cwpwl o gwmniau cyfrifeg lleol.
Rwy’n Gymrawd o Sefydliad y Cyfrifwyr Ariannol ac rwyf wedi fy nhrwyddedu a fy rheoleiddio gan Sefydliad y Cyfrifwyr Ariannol (www.ifa.org.uk). Dwi hefyd wedi fy’m oruchwylio o ran cydymffurfio â’r Rheoliadau Gwyngalchu Arian gan Sefydliad y Cyfrifwyr Ariannol.
Ein nod yw cynnig gwasanaeth proffesiynol, personol ac esmwyth wrth ddelio a’ch system cyfrifo a chadw llyfrau, gan wneud y profiad yn un mor effeithlon â phosib. Mae’r hen drefn yn newid, a digideiddio sy’n arwain y ffordd bellach. Rydym yma i arwain eich busnes drwy’r newidiadau hyn er mwyn cryfhau eich busnes. Cysylltwch â ni i drefnu ymgynghoriad rhad ac am ddim i drafod sut y gallwn gynnig gwasanaeth sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eich hanghenion.