Treth Bersonol
Ein nod yw bod yn effeithlon o ran treth wrth ymdrin â ffurflenni treth personol y cleient, gan ddefnyddio lwfansau a rhyddhad treth i leihau rhwymedigaethau treth lle mae modd.
Rydym yn sicrhau bod cleientiaid yn cael gwybod ymlaen llaw am unrhyw symiau sy’n ddyledus i Gyllid a Thollau EM erbyn 31ain Ionawr a 31ain Gorffennaf.
Treth Gorfforaeth
Ar ôl paratoi cyfrifon y cwmni, gellir cyfrifo’r dreth gorfforaeth drwy ddefnyddio’r ffurflen dreth gorfforaeth sy’n cael ei chyflwyno’n electronig i Gyllid a Thollau EM. Drwy fanteisio ar y lwfansau a’r rhyddhad sydd ar gael, gallwch fod yn sicr y bydd eich rhwymedigaeth o ran y dreth yn cael ei lleihau lle mae modd.
Treth ar Enillion Cyfalaf
Mae cynllunio treth ar enillion cyfalaf yn allweddol i sicrhau bod yr holl lwfansau a rhyddhad treth sydd ar gael yn cael eu defnyddio i leihau’r rhwymedigaeth treth. Rydym yn cynghori unrhyw un sy’n bwriadu gwaredu ased cyfalaf fel eiddo, busnes neu stociau a chyfranddaliadau i gysylltu â ni ymlaen llaw.