Bydd yr arfer o daflu derbynebau a gwaith papur mewn i focs esgidiau yn frysiog ar gyfer y cyfrifydd yn dod i ben yn raddol. O hyn allan, rôl y cyfrifydd fydd rhoi arweiniad i gleientiaid wrth ymdrin â chadw cyfrifon y busnes. Yna, bydd yn defnyddio’r data hwn i adrodd i Gyllid a Thollau EM yn chwarterol yn hytrach nag yn flynyddol. Enw’r cynllun sy’n cael ei gyflwyno gan y llywodraeth, a fydd yn dod yn orfodol yn fuan, yw GWNEUD TRETH YN DDIGIDOL.
Mae cynllun Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW eisoes yn gyfraith ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau ym Mhrydain os yw eu trosiant blynyddol yn fwy na £85,000. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- Cadw cofnodion digidol.
- Bod â llwybr archwilio digidol clir o’ch ffeiliau i’ch ffurflenni TAW.
- Defnyddio meddalwedd a gydnabyddir gan Gyllid a Thollau EM i gyflwyno’ch ffurflenni treth.
Ym mis Ebrill 2022 bydd yn rhaid i bob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, waeth beth fo’i drosiant, gydymffurfio. Mae hyn yn golygu y bydd cyflwyno ffurflenni TAW ar borth Cyllid a Thollau EM yn dod i ben.
Rydym yn annog ein holl gleientiaid sy’n berchnogion busnes i ddefnyddio QuickBooks ar-lein, ac rydym yn barod i weithio gyda nhw faint bynnag o ddefnydd maen nhw am ei gwneud o’r feddalwedd. Bydd gan y cleient a ninnau fel eich cyfrifydd fynediad at y system. Os yw’r cleient am ddefnyddio nodweddion y feddalwedd, gwych – gallwn ddarparu rôl ymgynghorol wrth ddelio ag unrhyw ymholiadau. Os na, rydym yn barod i wneud y gwaith cadw cyfrifon, TAW a chyflogres pan fydd gwybodaeth a dogfennaeth berthnasol yn cael eu trosglwyddo’n rheolaidd i ni.
Dylid ystyried y newidiadau hyn fel cymhelliant i ddechrau cadw cofnodion eich busnes yn ddigidol, gyda chyngor arbed treth amserol gan eich cyfrifydd.