Cadw Llyfrau a Chyflogres

Yn sgil cyflwyno cynllun Gwneud Treth yn Ddigidol, mae cadw cyfrifon yn dod yn rhan annatod o baratoi’r cyfrifon

Wrth i’r angen am gyflwyno adroddiadau chwarterol ddod yn orfodol, mae’n hanfodol sicrhau bod eich gwybodaeth cadw llyfrau yn gyfredol.

Byddwn yn darparu gwasanaeth cadw llyfrau i weddu â’ch hanghenion, gan wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Drwy ddefnyddio meddalwedd QuickBooks ar-lein, rydym yn gallu cynnal eich llyfrau, gan integreiddio hynny â swyddogaethau cyfrifo allweddol eraill fel cyflwyno TAW a’r gyflogres. Pob swyddogaeth allweddol mewn un lle i gadw trefn!

Gallwn reoli eich system gyflogres, gan ddarparu Gwybodaeth Amser Real (RTI) i Gyllid a Thollau EM a chydymffurfio â’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â Chofrestru Awtomatig ar gyfer Pensiwn. Casglu data am gyflogau yn wythnosol neu’n fisol, paratoi slipiau cyflog i’w darparu i weithwyr, a delio â gwahanol ddidyniadau a thaliadau statudol. Ymdrin â gweithwyr sy’n dechrau neu gadael eu swyddi, a darparu ffurflenni diwedd cyflogaeth a diwedd blwyddyn.

Drwy ddefnyddio QuickBooks ar-lein, gellir gweld slipiau cyflog drwy borth hunanwasanaeth diogel i weithwyr. Gallwch weld sut mae’ch busnes yn perfformio o ddydd i ddydd gyda system gyflogres sydd wedi’i hintegreiddio â’ch cyfrifon.

Cyfrifydd sydd yn deall

“Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn yng nghefn gwlad Cymru. Cefais fy magu ar y fferm deuluol gyda’r gymuned yn rhan annatod o fy mywyd. Mae gwasanaethu’r gymuned leol a chefn gwlad yn holl-bwysig i mi. Diolch i fy nghefndir amaethyddol cefais fy nghyflwyno i fyd busnes yn ifanc, a theimlaf yn freintiedig i fod wedi magu dealltwriaeth lwyr o’r maes yma. Rwyf yma i ddarparu cyngor busnes a threth er mwyn cefnogi’ch busnes i wneud penderfyniadau allweddol.”

Osian Williams FFA FIPA BSc (Econ) – osianwilliams.cymru

Am fwy, cliciwch yma

Cefn Parc, Taliaris, Llandeilo SA19 7DH
Phone : 07908 810392 / 01550 777311
Email : [email protected]

Osian Williams yw enw masnachu Osian T Williams Cyf
(Rhif cofrestredig. 13817752)