Cyfrifon

Rydym ni yn Osian Williams yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth personol sydd wedi’i deilwra’n arbennig i’ch hanghenion chi. Er mwyn cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf, mae cyfarfod blynyddol i drafod y cyfrifon yn cael ei ystyried yn hanfodol. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfrifon yn gywir, gan arwain at gynllunio busnes a chyngor treth manwl gywir.

Mae ein gwasanaethau cyfrifeg yn cynnwys: 

-Paratoi cyfrifon statudol diwedd blwyddyn ar gyfer partneriaethau neu’r hunan-gyflogedig.

-Paratoi cyfrifon Cyfyngedig diwedd blwyddyn statudol yn barod i’w ffeilio’n ddigidol gyda Cyllid a Thollau EM a Thŷ’r Cwmnïau.

-Paratoi cyfrifon Incwm a Gwariant sylfaenol ar gyfer unigolion neu eiddo rhent.

– Paratoi cyfrifon rheolaeth yn fisol neu’n chwarterol, os oes angen.

-Gwasanaethau ysgrifenyddol y cwmni – cyngor ar sefydlu cwmni cyfyngedig neu newidiadau i strwythur y cwmni.

Cyfrifydd sydd yn deall

“Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn yng nghefn gwlad Cymru. Cefais fy magu ar y fferm deuluol gyda’r gymuned yn rhan annatod o fy mywyd. Mae gwasanaethu’r gymuned leol a chefn gwlad yn holl-bwysig i mi. Diolch i fy nghefndir amaethyddol cefais fy nghyflwyno i fyd busnes yn ifanc, a theimlaf yn freintiedig i fod wedi magu dealltwriaeth lwyr o’r maes yma. Rwyf yma i ddarparu cyngor busnes a threth er mwyn cefnogi’ch busnes i wneud penderfyniadau allweddol.”

Osian Williams FFA FIPA BSc (Econ) – osianwilliams.cymru

Am fwy, cliciwch yma

Cefn Parc, Taliaris, Llandeilo SA19 7DH
Phone : 07908 810392 / 01550 777311
Email : [email protected]

Osian Williams yw enw masnachu Osian T Williams Cyf
(Rhif cofrestredig. 13817752)