Ym mis Ebrill 2019, dechreuodd cynllun Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD). Dyma’r dyddiad y bu’n rhaid i fusnesau â throsiant blynyddol o fwy na £85,000 gadw eu cofnodion TAW yn ddigidol. Mae busnesau yn gwneud hyn drwy gadw cofnodion digidol, bod â llwybr archwilio digidol clir o ffeiliau i’r ffurflenni TAW a defnyddio meddalwedd a gydnabyddir gan Gyllid a Thollau EM i gyflwyno’r ffurflenni treth.
Ym mis Ebrill 2022 bydd yn rhaid i bob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, waeth beth fo’i drosiant, gydymffurfio. Gan gychwyn o’r cyfnod TAW cyntaf o 1 Ebrill 2022 ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ond nad oedd angen iddynt ddefnyddio Gwneud Treth yn Ddigidol cyn hynny gyflwyno’u ffurflen TAW i CThEM drwy feddalwedd sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol.
Mae’n bosib gwneud cais am eithriad o gynllun Gwneud Treth yn Ddigidol, hynny yn ddibynnol ar eich hoedran, anabledd neu am unrhyw reswm ble nad yw’n resymol neu yn ymarferol. Bydd CThEM yn ystyried pob cais yn unigol.
Ac mae mwy i ddod…
O fis Ebrill 2024, bydd landlordiaid a busnesau anghorfforedig sydd â chyfanswm incwm busnes neu eiddo dros £10,000 y flwyddyn, yn ymuno â’r cynllun Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd yn rhaid cyflwyno crynodeb chwarterol o incwm a threuliau busnes i CThEM gan ddefnyddio meddalwedd sy’n gydnaws â’r cynllun. Bydd ffurflen diwedd blwyddyn i’w chwblhau a chyfle i weithredu unrhyw newidiadau i’r chwarteri blaenorol. Mi fydd y cyfan yn cael ei gyflwyno erbyn 31 Ionawr â’r ffurflen dreth hunanasesu gyfredol yn cael ei disodli.
Ni fydd newid i’r ddyddiad cau ar gyfer cwblhau materion treth a gwneud taliadau.
O fis Ebrill 2025, mae’n rhaid i bartneriaethau cyffredinol sy’n ennill dros £10,000 y flwyddyn gofrestru ar gyfer Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
O fis Ebrill 2026, mae disgwyl i gynllun Gwneud Treth yn Ddigidol ddechrau ar gyfer treth gorfforaeth.
Dyma drosolwg byr yn unig. Os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch â’ch cyfrifydd.
Osian Williams FFA FIPA BSc (Econ)
Cyfrifydd Ariannol
07908810392