Gan gychwyn o’u cyfnod TAW cyntaf o 1 Ebrill 2022 ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ond nad oedd angen iddynt ddefnyddio Gwneud Treth yn Ddigidol cyn hynny gyflwyno’u Ffurflen TAW i CThEM drwy feddalwedd sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol.
Rydym yn cynnig gwasanaeth paratoi TAW, gyda ffurflenni TAW yn cael eu cyflwyno’n electronig bob mis neu bob chwarter.
Wrth i gynllun Gwneud Treth yn Ddigidol agosáu, ac fel uwch-ymgynghorydd ardystiedig gyda meddalwedd QuickBooks ar-lein, rydym yn cynghori ein cleientiaid i ddefnyddio QuickBooks. Chi sydd i benderfynu faint o ddefnydd rydych chi am ei gwneud o’r feddalwedd.
Mae modd gwneud hyn mewn un o ddwy ffordd:
- Y cleient i ddarparu’u cofnodion TAW i ni mewn da bryd cyn y dyddiad dan sylw, fel y gallwn eu paratoi ar feddalwedd QuickBooks ar-lein i’w cyflwyno i Gyllid a Thollau EM ar amser.
- Y cleient i ddefnyddio meddalwedd QuickBooks ar-lein i fewnbynnu’u cofnodion TAW, i’w hadolygu a’u cyflwyno ganddon ni.