Trethiant

Fel rhan o’n gwasanaeth cyfrifeg, rydym yn cwblhau ffurflenni treth personol a phartneriaeth.

Treth Bersonol

Ein nod yw bod yn effeithlon o ran treth wrth ymdrin â ffurflenni treth personol y cleient, gan ddefnyddio lwfansau a rhyddhad treth i leihau rhwymedigaethau treth lle mae modd.

Rydym yn sicrhau bod cleientiaid yn cael gwybod ymlaen llaw am unrhyw symiau sy’n ddyledus i Gyllid a Thollau EM erbyn 31ain Ionawr a 31ain Gorffennaf.

Treth Gorfforaeth

Ar ôl paratoi cyfrifon y cwmni, gellir cyfrifor dreth gorfforaeth drwy ddefnyddior ffurflen dreth gorfforaeth syn cael ei chyflwynon electronig i Gyllid a Thollau EM. Drwy fanteisio ar y lwfansau ar rhyddhad sydd ar gael, gallwch fod yn sicr y bydd eich rhwymedigaeth o ran y dreth yn cael ei lleihau lle mae modd. 

Treth ar Enillion Cyfalaf

Mae cynllunio treth ar enillion cyfalaf yn allweddol i sicrhau bod yr holl lwfansau a rhyddhad treth sydd ar gael yn cael eu defnyddio i leihau’r rhwymedigaeth treth. Rydym yn cynghori unrhyw un sy’n bwriadu gwaredu ased cyfalaf fel eiddo, busnes neu stociau a chyfranddaliadau i gysylltu â ni ymlaen llaw.

Cyfrifydd sydd yn deall

“Mae fy ngwreiddiau yn ddwfn yng nghefn gwlad Cymru. Cefais fy magu ar y fferm deuluol gyda’r gymuned yn rhan annatod o fy mywyd. Mae gwasanaethu’r gymuned leol a chefn gwlad yn holl-bwysig i mi. Diolch i fy nghefndir amaethyddol cefais fy nghyflwyno i fyd busnes yn ifanc, a theimlaf yn freintiedig i fod wedi magu dealltwriaeth lwyr o’r maes yma. Rwyf yma i ddarparu cyngor busnes a threth er mwyn cefnogi’ch busnes i wneud penderfyniadau allweddol.”

Osian Williams FFA FIPA BSc (Econ) – osianwilliams.cymru

Am fwy, cliciwch yma

Cefn Parc, Taliaris, Llandeilo SA19 7DH
Phone : 07908 810392 / 01550 777311
Email : [email protected]

Osian Williams yw enw masnachu Osian T Williams Cyf
(Rhif cofrestredig. 13817752)